Despite the relentless rain, three dedicated volunteers, alongside one of our councillors and one of our PCSOs, joined forces in a commendable effort to clear Langland Bay of litter.
The commitment of these residents showcases just how important these litter picks are, not only to the local environment, but the community as well. We all want to see cleaner beaches in Mumbles, and our volunteers take action to ensure this, rain or shine.
The results of our efforts were represented by six bags of general waste, and four bags of recycling. This is a significant achievement, underlined by the copious amounts of microplastics found nestled in between the rocks. By collecting these microplastics, we have stopped them from entering the ocean, and potentially causing significant harm to marine life. This serves as a reminder, that the extent of the plastic pollution problem is not always visible. Whilst Langland Bay looked relatively clean that day, on closer inspection, the reality is sadly more sobering.
Langland bay serves as both a popular sunbathing destination, and a vital habitat for marine wildlife. Our volunteer events highlight the importance of collective action in preserving and protecting natural environments for future generations.
A huge thank you to all the volunteers that took part in our Langland Bay litter pick. The collective efforts of everyone in our community makes a huge difference.
Er gwaethaf y glaw di-baid, daeth tri gwirfoddolwr ymroddedig, un o’n cynghorwyr ac un Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ynghyd mewn ymdrech glodwiw i glirio sbwriel Bae Langland. Mae ymrwymiad y trigolion hyn yn dangos pa mor bwysig yw’r ymgyrchoedd codi sbwriel hyn, nid yn unig i’r amgylchedd lleol, ond i’r gymuned hefyd. Rydyn ni i gyd eisiau gweld traethau glanach yn y Mwmbwls, ac mae ein gwirfoddolwyr yn gweithredu i sicrhau hyn, boed law neu hindda.
Canlyniad ein hymdrechion oedd chwe sach o wastraff cyffredinol a phedwar sach o ddeunydd ailgylchu. Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol, sy’n dangos faint o ddeunydd microblastig sy’n cael ei ganfod yn swatio rhwng y creigiau. Drwy gasglu’r microblastigau hyn, rydym wedi eu hatal rhag cyrraedd y môr ac, o bosibl, achosi niwed sylweddol i fywyd morol. Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw maint y broblem llygredd plastig bob amser yn weladwy. Er bod Bae Langland yn edrych yn gymharol lân y diwrnod hwnnw, o edrych yn fanylach, roedd y realiti yn anffodus yn fwy difrifol.
Mae Bae Langland yn gyrchfan boblogaidd i dorheulo, ac yn gynefin hanfodol i fywyd gwyllt y môr. Mae ein gweithgarwch gwirfoddol yn amlygu pwysigrwydd gweithredu ar y cyd wrth gadw a diogelu amgylcheddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr a gymerodd ran yn ein sesiwn codi sbwriel ym Mae Langland. Gyda’i gilydd, mae ymdrechion pawb yn ein cymuned yn gwneud gwahaniaeth mawr.