Mumbles Green Heroes Event!

Join us at the Mumbles Green Heroes event on 24th July.

Are you passionate about the environment and live in the Mumbles area? Do you want to connect with like-minded individuals to make a difference in your community? Then mark your calendars for the Mumbles Green Heroes event, hosted by Mumbles Community Council.

 

When and where is it?

The event will be held on Monday 24th July from 5pm until 6:15pm.

We will be meeting at Gower Wildflower Cafe, Blackhills Ln, Upper Killay, Swansea, SA2 7JR.

Refreshments including tea, coffee and cake will be available to buy from the caffe, but the event is free to all.

Registration through the Eventbrite link is essential!

 

What is there for me at this event?

At this event you will have the opportunity to learn more about the environmental activities of Mumbles Community Council that have taken place and hear what we have planned for the coming months. Discover the inspiring initiatives and projects that are shaping a greener future for Mumbles.

We will also be joined by the new Clerk of Mumbles Community Council, who will be bringing a fresh perspective and ideas to our ongoing environmental efforts.

Above anything, this is a chance to celebrate Mumbles Green Heroes! If you have been involved in an inspiring environmental project or have plans to protect nature in Mumbles, we want to hear from you. You will have the chance to engage with committee members, residents and organisations that can share ideas, advice, and expertise.

The event aims to bring together individuals who share the same passion for environmental stewardship. Connect with fellow environmental enthusiasts. Together, we can amplify our impact and create a greener Mumbles.

We believe that your input is key to achieving greater results! During the event, we will be exploring ways to enhance our networking efforts, fostering better collaboration with our community. In the spirit of this, we would encourage you to share what environmental issues matter to you. How can we, as a council, implement your concerns into our work plan? How can we work with you?

 

What can we expect to come from this event?

Mumbles Community Council is dedicated to working towards a more sustainable and greener future! Through networking during this event, we hope to establish what the thoughts of the community are and implement this into our work.

It’s not all doom and gloom when it comes to environmental issues. There are some amazing organisations and individuals doing some brilliant work. This event aims to inspire you through sharing stories and a talk from Cae Tan. Cae Tan are a wonderful community supported agriculture project based on Gower. They grow and supply fresh, seasonal produce all year round. Their aim is to utilise and raise awareness of sustainable food production, reconnecting people to their land and their food. Hopefully, you can take away some inspiration from this organisation.

We will be capturing the spirit of the event by taking photos and gathering information that will help us update the Mumbles Community Council Green Heroes Web Page. Each person present will have the opportunity to be featured with a short blurb, showcasing their commitment and contributions. This is completely optional!

 

The Mumbles Green Heroes event promises to be a memorable and impactful occasion, bringing together a community of individuals united by their love for the environment. Don't miss out on this fantastic opportunity to learn, connect, and share. Join us on the 24th of July and be part of the movement that's shaping a greener future for Mumbles!

Tickets are available here

 

Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls!

Dydd Llun 24 Gorffennaf rhwng 5pm a 6.15pm yn Gower Wildflower Cafe.

Ydych chi'n angerddol am yr amgylchedd ac yn byw yn ardal y Mwmbwls? Ydych chi'n gwirfoddoli / gweithio i fudiad amgylcheddol lleol neu genedlaethol?

Dewch draw i ddarganfod mwy am waith amgylcheddol Cyngor Cymuned y Mwmbwls, rhannu eich cynlluniau eich hun a dweud wrthym beth sy'n bwysig i chi.

Bydd te, coffi a chacennau ar gael i'w prynu, a sgwrs hynod ddiddorol â Cae Tan!

Mae croeso i bawb!

Cofrestrwch eich presenoldeb gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

Tocynnau Mumbles Green Heroes / Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls, dydd Llun 24 Gorffennaf 2023 am 17:00 | Eventbrite

 

Website post:

Digwyddiad Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls!

Ymunwch â ni yn nigwyddiad Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls ar 24 Gorffennaf.

Ydych chi'n angerddol am yr amgylchedd ac yn byw yn ardal y Mwmbwls? Ydych chi eisiau cysylltu ag unigolion o'r un meddylfryd i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Yna rhowch nodyn yn eich calendr ar gyfer digwyddiad Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls, a gynhelir gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls.

 

Pryd a ble mae e?

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Llun 24 Gorffennaf o 5pm tan 6.15pm.

Byddwn yn cyfarfod yn Gower Wildflower Cafe, Blackhills Lane, Cilâ Uchaf, Abertawe, SA2 7JR.

Bydd lluniaeth, gan gynnwys te, coffi a chacennau ar gael i’w prynu o’r caffi, ond mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i bawb.

Mae cofrestru drwy'r ddolen Eventbrite yn hanfodol!

 

Beth sydd yna i mi yn y digwyddiad hwn?

Yn y digwyddiad hwn, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu mwy am weithgareddau amgylcheddol Cyngor Cymuned y Mwmbwls sydd wedi bod ar y gweill a chlywed am yr hyn rydym wedi ei gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf. Darganfyddwch y mentrau a phrosiectau ysbrydoledig sy'n llunio dyfodol gwyrddach i'r Mwmbwls.

Bydd clerc newydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn ymuno â ni hefyd, a bydd yn dod â phersbectif a syniadau ffres i’n hymdrechion amgylcheddol parhaus.

Yn fwy na dim, dyma gyfle i ddathlu Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls! Os ydych chi wedi bod yn rhan o brosiect amgylcheddol ysbrydoledig neu os oes gennych chi gynlluniau i warchod byd natur yn y Mwmbwls, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu ag aelodau pwyllgor, trigolion, a sefydliadau a all rannu syniadau, cyngor ac arbenigedd.

Nod y digwyddiad yw dod ag unigolion sy'n rhannu'r un angerdd am stiwardiaeth amgylcheddol ynghyd. Cysylltwch â chyd-selogion amgylcheddol. Gyda'n gilydd, gallwn ehangu ein heffaith a chreu Mwmbwls gwyrddach.

Credwn fod eich mewnbwn yn allweddol i gyflawni canlyniadau gwell! Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn archwilio ffyrdd o wella ein hymdrechion rhwydweithio, gan feithrin gwell cydweithio gyda'n cymuned. Yn hyn o beth, byddem yn eich annog i rannu pa faterion amgylcheddol sydd o bwys i chi. Sut gallwn ni, fel cyngor, roi eich pryderon ar waith yn ein cynllun gwaith? Sut gallwn ni weithio gyda chi?

 

Beth allwn ni ei ddisgwyl o'r digwyddiad hwn?

Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn ymroddedig i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwyrddach! Trwy rwydweithio yn ystod y digwyddiad hwn, rydym yn gobeithio sefydlu beth yw barn y gymuned a’i rhoi ar waith yn ein gwaith.

Nid yw popeth yn edrych yn ddu i’r amgylchedd. Mae yna rai sefydliadau ac unigolion anhygoel yn gwneud gwaith gwych. Nod y digwyddiad hwn yw eich ysbrydoli trwy rannu straeon a sgwrs â Cae Tan. Mae Cae Tan yn brosiect amaethyddol gwych a gefnogir gan y gymuned yn seiliedig ar Benrhyn Gŵyr. Maent yn tyfu ac yn cyflenwi cynnyrch ffres a thymhorol trwy gydol y flwyddyn. Eu nod yw defnyddio a chodi ymwybyddiaeth o gynhyrchu bwyd cynaliadwy, gan ailgysylltu pobl â'u tir a'u bwyd. Gobeithio y gallwch gael rhywfaint o ysbrydoliaeth gan y sefydliad hwn.

Byddwn yn dal ysbryd y digwyddiad drwy dynnu lluniau a chasglu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddiweddaru tudalen we Pencampwyr Gwyrdd Cyngor Cymuned y Mwmbwls. Bydd pob un sy’n bresennol yn cael y cyfle i gael sylw gyda broliant byr, gan arddangos eu hymrwymiad a’u cyfraniadau. Mae hyn yn gwbl ddewisol!

 

Mae digwyddiad Pencampwyr Gwyrdd y Mwmbwls yn argoeli i fod yn achlysur cofiadwy a dylanwadol, gan ddod â chymuned o unigolion ynghyd sydd wedi’u huno gan eu cariad at yr amgylchedd. Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i ddysgu, cysylltu a rhannu. Ymunwch â ni ar y 24 Gorffennaf a byddwch yn rhan o'r mudiad sy'n siapio dyfodol gwyrddach i'r Mwmbwls!

Date
Monday 24th July 2023
Venue
Gower Wildflower Cafe, Blackhills Ln, Upper Killay, Swansea, SA2 7JR
Time
5.00pm - 6.15pm