Bee Friendly Streets!

As last month’s weeding day was called off due to the weather, we are hopeful that the skies are in our favour this weekend and will be weeding in West Cross.

We will be meeting on the corner of Fairwood Road and Sweet Briar Lane.  

If you have weeding tools such as trowels and forks and gardening gloves, please bring them along. If not don’t worry, we will have some available.

Please make sure to wear appropriate clothing and be aware that there will be a moderate amount of walking involved on the day. If you have mobility requirements, please email lydia.graham@mumbles.gov.uk and we will do our best to accommodate you.

 

What will we be doing?

We will be pulling up “weeds” (or wildflowers in inappropriate places) only in areas where they are obstructing the pavement. The aim is to keep our streets tidy and safe to use, without the use of harmful herbicides.

 

Why are we doing this?

This pilot project is aimed at trialling the use of alternative weed control methods, rather than the conventional method of controversial herbicides such as Glyphosate. Mayals and West Cross will be significantly reducing the use of chemical herbicides in an effort to support biodiversity and reduce the harmful impact of spraying.

What we normally see as weeds, are actually incredibly beneficial for pollinators and other wildlife! Spraying these plants with herbicides has been shown to disastrously impact pollinator populations by contaminating their food source, degrading and fragmenting their habitats, and reducing the diversity of plants. We aim to create space for wildlife and the Mumbles community by managing our streets in a slightly different way.

We hope you are as excited as we are to see the evolution of this project! With your help we can achieve the balance of people and nature and create “Bee Friendly Streets” in Mumbles.

For more information on environmental events and activity please follow the link to sign up to our mailing list https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers.

 

 

Gan fod diwrnod chwynnu mis diwethaf wedi’i ohirio oherwydd y tywydd, rydym yn gobeithio y bydd y tywydd o’n plaid y penwythnos hwn ac y byddwn yn chwynnu yn West Cross.

Byddwn yn cyfarfod ar gornel Fairwood Road a Sweet Briar Lane. 

Os oes gennych chi offer chwynnu fel trywelion a ffyrc a menig garddio, dewch â nhw gyda chi. Os na, peidiwch â phoeni, bydd rhywfaint o offer ar gael.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo dillad priodol a byddwch yn ymwybodol y bydd angen cerdded rhywfaint ar y diwrnod. Os oes gennych anghenion symudedd, anfonwch e-bost at lydia.graham@mumbles.gov.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Byddwn yn codi “chwyn” (neu flodau gwyllt mewn mannau amhriodol) dim ond mewn ardaloedd lle maent yn rhwystro'r palmant. Y nod yw cadw ein strydoedd yn daclus ac yn ddiogel i’w defnyddio, heb ddefnyddio chwynladdwyr niweidiol.

 

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae'r prosiect peilot hwn wedi'i anelu at dreialu defnyddio dulliau rheoli chwyn amgen, yn hytrach na'r dull confensiynol o chwynladdwyr dadleuol fel Glyffosad. Bydd Mayals a West Cross yn lleihau'n sylweddol y defnydd o chwynladdwyr cemegol mewn ymdrech i gefnogi bioamrywiaeth a lleihau effaith niweidiol chwistrellu.

Mae’r hyn yr ydym fel arfer yn ei ystyried yn chwyn, mewn gwirionedd yn hynod fuddiol i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall! Dangoswyd bod chwistrellu’r planhigion hyn â chwynladdwyr yn effeithio’n drychinebus ar boblogaethau peillwyr trwy halogi eu ffynhonnell bwyd, diraddio a darnio eu cynefinoedd, a lleihau amrywiaeth y planhigion. Ein nod yw creu gofod ar gyfer bywyd gwyllt a chymuned y Mwmbwls trwy reoli ein strydoedd mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Gobeithio eich bod yn teimlo mor gyffrous â ni i weld datblygiad y prosiect hwn! Gyda’ch cymorth chi gallwn sicrhau’r cydbwysedd rhwng pobl a byd natur a chreu “Strydoedd sy’n Hybu Gwenyn” yn y Mwmbwls.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau amgylcheddol dilynwch y ddolen i gofrestru ar ein rhestr bostio https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers.

 

Date
Saturday 19th August 2023
Venue
West Cross
Time
10.00am - 12.00pm