Mumbles Green Heroes

Another inspiring Mumbles Green Heroes gathering..

On the 22nd February 2024, local eco-enthusiasts, changemakers, and local government representatives came together for the third Mumbles Green Heroes gathering. The event, focused on waste and recycling, served as a platform for exchanging ideas, sharing insights, and collaborating to achieve a more sustainable future.

The event, held at Underhill Hub, saw enthusiastic input and discussion from Mumbles residents, eager to make a positive impact on our environment. We were joined by guest speakers, Chris Howell, Head of Waste Management at Swansea Council; Andy Reese, Head of Waste Strategy at Welsh Government; and Kristina from Mumbles Repair Café, who brought their expertise and passion to the discussion.

Chris Howell, representing Swansea Council, provided valuable insight into what happens to our waste after it leaves the kerbside, and what changes the council have planned for the future. Andy Reese, presenting the wider context of Welsh Government policy, highlighted the broader legislative landscape surrounding waste. He emphasized the incredible impact that residents’ recycling efforts have had on Wales reaching 3rd in the world for recycling, with only 1.6% of our waste going to landfill.

Kristina, representing the Red Community Project’s Mumbles Repair Café, highlighted the importance of repairing and repurposing items to minimise landfill waste.  Her perspective resonated deeply with attendees, inspiring them to reconsider their consumption habits. If you are interested in volunteering your repair skills to the Red Community Project, or need that old, treasured item in the back of the cupboard repaired, visit one of their events. You can find out more about dates and how to get in touch here https://repaircafewales.org/location/mumbles/

The event facilitated meaningful conversations and actionable solutions. Attendees left with a better understanding of what happens to their waste and committed to implementing positive changes.

For more information about upcoming Green Heroes gatherings, or to be added to our Green Heroes mailing list, please contact us. If you have an environmental project, initiative, or expertise that you would like to share, please get in contact to be added to our list of guest speakers for future events.

Ar 22 Chwefror 2024, daeth eco-selogion lleol, gwneuthurwyr newid, a chynrychiolwyr llywodraeth leol ynghyd ar gyfer trydydd cynulliad Arwyr Gwyrdd y Mwmbwls. Bu’r digwyddiad, a fu’n canolbwyntio ar wastraff ac ailgylchu, yn llwyfan ar gyfer cyfnewid syniadau, rhannu sylwadau, a chydweithio i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Underhill, cafwyd mewnbwn a thrafodaeth frwdfrydig gan drigolion y Mwmbwls, yn awyddus i gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd. Yn ymuno â ni yr oedd y siaradwyr gwadd, Chris Howell, Pennaeth Rheoli Gwastraff Cyngor Abertawe; Andy Reese, Pennaeth Strategaeth Wastraff Llywodraeth Cymru; a Kristina o Gaffi Trwsio y Mwmbwls, a ddaeth â’u harbenigedd a’u brwdfrydedd i’r drafodaeth.

Rhoddodd Chris Howell, sy’n cynrychioli Cyngor Abertawe, gipolwg gwerthfawr o’r hyn sy’n digwydd i’n gwastraff ar ôl iddo adael ymyl y ffordd, a’r newidiadau y mae’r Cyngor wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol. Wrth gyflwyno cyd-destun ehangach polisi Llywodraeth Cymru, tynnodd Andy Reese sylw at y sefyllfa ddeddfwriaethol ehangach sy’n ymwneud â gwastraff. Pwysleisiodd yr effaith anhygoel y mae ymdrechion ailgylchu trigolion wedi’i chael ar Gymru’n cyrraedd y trydydd safle yn y byd am ailgylchu, gyda dim ond 1.6% o’n gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Amlygodd Kristina, o Gaffi Trwsio y Mwmbwls, Prosiect Cymunedol Red, bwysigrwydd trwsio ac addasu eitemau at ddibenion gwahanol er mwyn lleihau gwastraff tirlenwi. Roedd ei safbwynt yn atseinio’n ddwfn ymhlith pawb yn bresennol, ac yn eu hysbrydoli i ailystyried eu harferion defnyddio. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli eich sgiliau trwsio i Brosiect Cymunedol Red, neu os yw’r hen eitem hwnnw sydd wedi’i drysori yng nghefn y cwpwrdd angen cael ei drwsio, ewch i un o’u digwyddiadau. Gallwch ddarganfod mwy am ddyddiadau a sut i gysylltu yma https://repaircafewales.org/cy/location/mumbles/

Sbardunodd y digwyddiad hwn sgyrsiau ystyrlon ac atebion ymarferol. Aeth pawb oddi yno â gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd i’w gwastraff ac wedi ymrwymo i roi newidiadau cadarnhaol ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth am gynulliadau Arwyr Gwyrdd yn y dyfodol, neu i gael eich ychwanegu at restr bostio Arwyr Gwyrdd, cysylltwch â ni. Os oes gennych brosiect amgylcheddol, menter neu arbenigedd yr hoffech ei rannu, cysylltwch â ni i gael eich ychwanegu at ein rhestr o siaradwyr gwadd ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.