We have come to the end of #30DaysWild 2023!

If you have taken part in the Wildlife Trust’s challenge, congratulations! You have come so far on your journey to reconnecting with nature.

Whatever this challenge meant to you, we hope that overall, you have found some joy in your quest to noticing more in nature.

Just because this challenge is over, it doesn’t mean that your wild activities need to end! The idea of Mumbles Community Council taking part in this challenge was so that even those that didn’t take part this year could be inspired to try nature based activity. We hope you feel inspired to connect with nature and incorporate small elements of wild activity into your daily life.

The Wildlife Trust have found that nature connectedness in those who described their connection to nature as “weak” before the challenge rose by 56%. 30 Days Wild has also been shown to boost the health of participants in previous years by an average of 30%. This along with reports of feeling significantly happier, shows that an improved connection between people and nature can boost our mental and physical health significantly. When we feel a positive connection with something, we alter our behaviour to maintain that connection. The more we benefit from nature, the more likely we are to take action to protect it!

If you are a seasoned 30 Days Wild challenger, this was your first year taking part, or you feel inspired to take on the challenge next year, please let us know! We’d love to hear more about your nature connection journey.

 

-

 

Mae #30DiwrnodGwyllt wedi dod i ben!

Os ydych chi wedi cymryd rhan yn her yr Ymddiriedolaeth Natur, llongyfarchiadau! Rydych chi wedi dod mor bell ar eich taith i ailgysylltu â byd natur.

Beth bynnag oedd yr her hon yn ei olygu i chi, rydym yn gobeithio eich bod, rhwng popeth, wedi cael llawenydd wrth sylwi ar fwy ym myd natur.

Nid yw'n golygu bod yn rhaid i'ch gweithgareddau gwyllt ddod i ben dim ond oherwydd bod yr her hon ar ben! Syniad Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn cymryd rhan yn yr her hon oedd bod hyd yn oed y rhai na gymerodd ran eleni yn cael eu hysbrydoli i roi cynnig ar weithgareddau natur. Gobeithio y cewch eich ysbrydoli i gysylltu â natur ac ymgorffori elfennau bach o weithgarwch gwyllt yn eich bywyd bob dydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth Natur wedi canfod bod cysylltedd â byd natur y rheini a ddisgrifiodd eu cysylltiad â byd natur yn “wan” cyn yr her, wedi codi 56%. Dangoswyd hefyd bod 30 Diwrnod Gwyllt yn y blynyddoedd blaenorol wedi rhoi hwb o 30% ar gyfartaledd i iechyd cyfranogwyr. Mae hyn, ynghyd ag adroddiadau o deimlo’n llawer hapusach, yn dangos y gall gwell cysylltiad rhwng pobl a natur roi hwb sylweddol i’n hiechyd meddwl a chorfforol. Pan fyddwn yn teimlo cysylltiad cadarnhaol â rhywbeth, rydym yn newid ein hymddygiad i gynnal a chadw’r cysylltiad hwnnw. Po fwyaf y byddwn yn elwa o fyd natur, y mwyaf tebygol yr ydym o weithredu i'w warchod!

Os ydych chi wedi ymgymryd â her 30 Diwrnod Gwyllt o’r blaen, mai dyma oedd eich blwyddyn gyntaf yn cymryd rhan, neu os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi'ch ysbrydoli i ymgymryd â'r her y flwyddyn nesaf, rhowch wybod i ni! Byddem wrth ein bodd yn clywed mwy am eich taith yn cysylltu â byd natur.